Croeso i Archifau Cymunedol Cymru
Casgliadau o ddeunydd mewn dwylo preifat sydd wedi cael eu digido a'u dehongli gan grwpiau cymunedol yw archifau cymunedol digidol, gan ganiatáu i'r cymunedau gyflwyno eu hanes eu hunain yn eu geiriau eu hunain.
Cychwynnodd ACC fel prosiect peilot i alluogi 11 grw^p o fewn ardaloedd Cymunedau'n Gyntaf ledled Cymru i greu eu harchifau digidol eu hunain a'u rhannu ar wefan ACC. Ers hynny, mae grwpiau eraill wedi cyfrannu i'r prosiect ac mae nifer yr eitemau sydd i'w gweld ar y wefan yn parhau i gynyddu. Os oes gennych chi ddiddordeb yn y prosect ac efallai'n dymuno digido eich archif gymunedol, buasem yn falch o glywed gennych.
Wedi'i chwilio'n ddiweddar














